Joe Allen
Fe fydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn methu gemau rhagbrofol Ewro 2016 Cymru yn erbyn Bosnia-Hercegovina a Chyprus yng Nghaerdydd.
Cafodd Allen ei anafu yn ystod buddugoliaeth Cymru dros Andorra ar Fedi 9.
Yn ôl adroddiadau, mae Allen wedi cael llawdriniaeth ar hernia yn y cyfamser.
Bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman yn enwi’r garfan yn ddiweddarach heddiw.
Bydd y gemau’n cael eu chwarae ar Hydref 10 ac 13.
Fe fydd Cymru heb y chwaraewr canol cae arall, Aaron Ramsey sydd wedi anafu llinyn y gâr.
Gallai’r anafiadau olygu bod Lee Evans, sy’n chwarae i Wolves, gael ei alw i’r garfan.