Wrecsam 1–0 Kidderminster

Mae Wrecsam wedi codi i’r trydydd safle yn nhabl Cyngres Vanarama ar ôl trechu Kidderminster ar y Cae Ras nos Fawrth.

Roedd gôl hwyr Elliott Durrell yn ddigon i sicrhau pedwaredd buddugoliaeth mewn pum gêm i’r Cymry.

Prin oedd y cyfleoedd yn y ddau ben yn ystod yr 84 munud cyntaf. Michael Gash a ddaeth agosaf i’r ymwelwyr ond roedd Daniel Bachmann yn effro rhwng y pyst i’r Dreigiau.

Yna, pan ddaeth unig gôl y gêm roedd elfen o lwc ynddi ond fydd Wrecsam ddim yn poeni wrth i ergyd Durrell wyro i gefn y rhwyd i godi ei dîm dri lle i’r trydydd safle yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, Carrington, Smith, Hudson, Ashton, York (Bishop 69′), Clarke, Keates, Durrell (Hunt 89′), Moult, Jennings

Gôl: Durrell 84’

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Hodgkiss, Dunkley, Gowling, Nicholson, Byrne, Storer, Verma, Johnson, Gash, Styche (Reid 69′)

Cardiau Melyn: Gowling 24’, Storer 52’, Johnson 56’, Byrne 90’

.

Torf: 3,149