Brighton 1–1 Caerdydd
Cafodd Caerdydd bwynt yn erbyn Brighton yn Stadiwm Amex nos Fawrth diolch i gôl Kenwyne Jones.
Unionodd blaenwr yr Adar Gleision lai na munud wedi i Bruno roi Brighton ar y blaen wedi ugain munud o chwarae, ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r ddau dîm o hanner gwaelod y Bencampwriaeth orfod bodloni ar bwynt yr un.
Rhoddodd Bruno’r tîm cartref ar y blaen wedi i bas Lewis Dunk ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.
Ond roedd yr ymwelwyr o Gymru nôl yn gyfartal bron yn syth o’r ail ddechrau wedi i Jones benio croesiad Peter Wittingham i gefn y rhwyd.
Brighton a gafodd y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd wedi hynny ond daliodd Caerdydd eu gafael ar y pwynt.
Mae’r pwynt hwnnw yn eu codi ddau le i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Brighton
Tîm: Stockdale, Bruno, Greer, Dunk, Bennett, Gardner, Holla, Forster-Caskey, J. Teixeira (McCourt 80′), Mackail-Smith (O’Grady 58′), Lua Lua
Gôl: Bruno 20’
Cardiau Melyn: Greer 54’, Forster-Caskey 55’, Lua Lua 90’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Pilkington, Adeyemi (Noone 54′), Gunnarsson, Whittingham, Daehli (Morrison – 65′ ), Jones (Macheda 83′)
Gôl: Jones 21’
Caridau Melyn: Daehli 39’, Wittingham 81’, Noone 88’
.
Torf: 23,172