Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Rheolwr Rygbi Merched newydd fydd yn cychwyn yn ei swydd yn y flwyddyn newydd.

Mae Caroline Spanton yn ymuno a’r WRU o Hoci Cymru lle mae hi ar hyn o bryd yn Bennaeth Chwaraeon.

Mae ganddi hefyd brofiad o gadeirio Bwrdd Cyfarwyddwyr Rhwyfo Cymru.

Gan geisio creu’r un cyfleoedd i ferched a’r hyn sydd ar gael i ddynion, fe fydd hi’n gweithio gyda chlybiau, ysgolion a phrifysgolion i hybu rygbi ymysg merched.

“Rygbi yw gêm genedlaethol Cymru ac rwy’n falch iawn o ymuno a’r undeb ar amser mor gyffrous i chwaraeon marched.”

“Mae fy ngyrfa hyd yn hyn wedi rhoi pwyslais ar chwaraeon cymunedol ac rwy’n gobeithio dod a hyd i’m swydd newydd.”

Ychwanegodd Pennaeth WRU, Josh Lewsey: “Fe fydd Caroline yn llysgennad i’r gêm i ferched yng Nghymru, ar lefel ryngwladol.”

Bydd Caroline Spanton yn cychwyn ei swydd newydd ar 5 Ionawr.