Michael Hogan, Chwaraewr y Flwyddyn
Cafodd y bowliwr cyflym Michael Hogan ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn ystod Gwobrau Clwb Criced Morgannwg ac Orielwyr Sain Helen yn Abertawe neithiwr.

Ailadroddodd y gamp a gyflawnodd ar ddiwedd y tymor diwethaf, wedi iddo gipio 98 o wicedi ym mhob cystadleuaeth yn 2014.

Roedd y cyfanswm yn cynnwys 63 o wicedi yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o 19.55 yr un.

Hogan yw’r cyflymaf yn hanes Morgannwg i gyrraedd 200 o wicedi i’r sir, ac fe gafodd ei enwi yn nhîm y flwyddyn y BBC yn ddiweddar.

Yn dilyn tymor llewyrchus yn y T20 wrth daro’r ail ganred yn hanes Morganwng, cafodd Jim Allenby ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn y gystadleuaeth honno.

Cafodd Jacques Rudolph ei enwi’n Chwaraewr Rhestr A y Flwyddyn am ei gyfraniadau gyda’r bat yng Nghwpan Royal London, gan gynnwys 169* yn erbyn Sussex, ac fe orffennodd ar frig prif sgorwyr Morgannwg ar draws yr holl gystadlaethau, ychydig yn brin o’r 2,000.

Chris Cooke enillodd Chwarawr Pedwar Diwrnod y Flwyddyn, wedi iddo orffen ar frig rhestr cyfartaleddau batio’r sir, ac fe darodd 171, ei ganred gyntaf i Forgannwg, yn ystod y tymor.

Sgoriodd 870 o rediadau yn y Bencampwriaeth, gan orffen gyda chyfartaledd o 43.50 gyda’r bat.

Cipiodd y troellwr Andrew Salter wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn am yr ail dymor o’r bron, ac fe gipiodd ddwy wiced am 19 yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn rownd wyth ola’r T20 wrth i Forgannwg golli allan o drwch blewyn ar le yn Niwrnod y Ffeinals.

Y gwobrau eraill:

Chwaraewr Academi’r Flwyddyn: Connor Brown

Chwaraewr Mwyaf Addawol yr Academi’r Flwyddyn: Dewi Penrhyn Jones

Y chwaraewr sydd wedi gwella mwyaf: Chris Cooke

Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn: David Lloyd

Cafodd cyfraniadau Gareth Rees, Huw Waters, Murray Goodwin a John Glover eu cydnabod am eu cyfraniadau yn dilyn eu penderfyniad i ymddeol o griced.

Cafodd cyfraniadau Jacques Rudolph (cyfanswm undydd unigol gorau erioed), Jim Allenby (canred gyntaf yn y T20), Graham Wagg (ffigurau batio a bowlio gorau erioed), Dean Cosker (100 o gemau T20), a Kieran Bull (ffigurau gorau i droellwr ar ei ymddangosiad cyntaf) eu cydnabod ar y noson hefyd.