Cyn-gapten a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard yw Cyfarwyddwr Criced newydd Gwlad yr Haf.
Sgoriodd Maynard dros 25,000 o rediadau i Forgannwg yn ystod ei yrfa dros gyfnod o ugain mlynedd ar gyfartaledd o 42.53, ac roedd yn gapten yn ystod tymor 1997 pan enillodd Morgannwg y Bencampwriaeth.
Cynrychiolodd Loegr mewn pedair gêm brawf ac 14 o gemau undydd, ac fe fu’n is-hyfforddwr pan enillodd Lloegr gyfres y Lludw yn 2005.
Yn fwy diweddar, fe fu’n hyfforddi yn Ne Affrica ac India’r Gorllewin.
Mewn datganiad, dywedodd Maynard: “Dw i wrth fy modd yn cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Criced Clwb Criced Gwlad yr Haf. Mae’n fraint fawr.
“Fe fydd yn her newydd i fi ac yn un dw i’n edrych ymlaen yn fawr ati.
“Dw i’n gyffrous o gael bod ynghlwm wrth grŵp mor dalentog o chwaraewyr, ac alla i ddim aros i gael dechrau.”