Jamie Donaldson
Mae’r Cymro Jamie Donaldson wedi cyfaddef ei fod yn dal rhy feddw i werthfawrogi’r ffaith ei fod wedi ennill Cwpan Ryder dros y penwythnos.
Cipiodd Ewrop y fuddugoliaeth dros yr UDA yn nhwrnament golff mwyaf adnabyddus y byd brynhawn ddoe gyda sgôr terfynol o 16.5 i 11.5.
Donaldson gafodd y fraint o sicrhau’r canlyniad wrth iddo gipio buddugoliaeth 4&3 ar y 15fed twll yn erbyn yr Americanwr Keegan Bradley.
Bu tîm buddugol Ewrop yn dathlu drwy’r nos ar ôl sicrhau eu hwythfed fuddugoliaeth mewn deg cystadleuaeth ar gwrs Gleneagles yn yr Alban eleni.
Wrth gael ei holi ar Sky Sports y bore yma fe ofynnwyd i Donaldson a oedd wedi cael cyfle i werthfawrogi’r ffaith ei fod wedi bod yn rhan o’r tîm buddugol, a hynny ar ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Ryder.
“Na, achos fi dal wedi meddwi,” meddai’r gŵr o Bontypridd yn wên o glust i glust.
Cafodd y Cymro benwythnos gwych wrth iddo helpu tîm Ewrop i fuddugoliaeth, gan ennill yn y pedwarau a phedwar pêl ochr yn ochr â’r Sais Lee Westwood.
Roedd Justin Rose, Graeme McDowell a Rory McIlroy hefyd yn wych ar benwythnos ble llwyddodd Ewrop i ddal eu gafael ar y tlws yn gyfforddus o dan arweiniad y capten Paul McGinley.
Mae’n coroni blwyddyn dda iawn i Donaldson, sydd wedi codi i 25ain yn y byd eleni.