Aaron Ramsey
Ni fydd Aaron Ramsey yn rhan o garfan Cymru ar gyfer eu dwy gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus, ar ôl cadarnhad y bydd allan am rai wythnosau gydag anaf.
Tynnodd Ramsey linyn y gâr dros y penwythnos wrth i Arsenal herio Tottenham, ac mae disgwyl y bydd allan am ryw fis.
Mae’n golygu na fydd ar gael i Gymru wrth iddyn nhw herio Bosnia mewn llai na phythefnos, ar nos Wener 10 Hydref, cyn chwarae Cyprus tridiau’n ddiweddarach.
Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn enwi’i garfan ar gyfer y ddwy gêm gartref honno am 1yp ddydd Mercher.
Mae amheuon hefyd dros ffitrwydd Joe Allen, sydd heb chwarae ers gêm agoriadol Cymru yn yr ymgyrch yn erbyn Andorra’n gynharach yn y mis.
Fe anafodd Allen ei ben-glin yn y gêm honno, ond mae wedi dechrau ymarfer rhywfaint gyda Lerpwl unwaith eto bellach.
Dim ond nawr mae Hal Robson-Kanu’n dychwelyd o anaf i dîm Reading, tra bod ymosodwr Burnley Sam Vokes heb chwarae ers mis Mawrth ond wedi awgrymu’n ddiweddar ei fod yn ceisio bod yn ffit ar gyfer y ddwy gêm.
Bosnia’n beryglus
Yn ogystal ag Andorra, Bosnia-Herzegovina a Chyprus fe fydd Cymru’n herio Gwlad Belg ac Israel yn ystod yr ymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2016.
Fe chwaraeodd Bosnia a Chyprus ei gilydd yng ngêm agoriadol y grŵp, gyda Chyprus yn synnu pawb wrth ennill 2-1 i ffwrdd o gartref.
Roedd hynny’n newyddion da i Gymru, sydd yn gobeithio herio’r detholion cyntaf Bosnia ar frig y grŵp.
A dyw Coleman ddim yn siŵr sut fydd y Bosniaid yn ymateb i’r canlyniad hwnnw, ond mae’n gobeithio gweld torf iach yno i gefnogi Cymru yn y brifddinas ar gyfer y ddwy gêm.
“Doedd neb yn disgwyl hynny [buddugoliaeth Cyprus],” cyfaddefodd Coleman. “Bydd yn ddiddorol gweld sut mae Bosnia’n mynd ati gyda’r gêm yng Nghaerdydd.
“Fe ddown nhw yma fi’n siŵr yn chwilio am fuddugoliaeth. Ond allwn ni ddim meddwl amdanyn nhw. Fi ddim ond yn poeni am ein perfformiad ni.
“Mae’r ddwy gêm nesaf yn rhoi cyfle gwych i ni adeiladu seiliau cadarn. Mae Bosnia’n dîm da ond rydyn ni hefyd.”