Dan Lydiate
Ar ôl prin ymddangos o’r fainc yr wythnos diwethaf, fe gafodd Jamie Roberts, Mike Phillips a Dan Lydiate i gyd gyfle i ddechrau i Racing Metro dros y penwythnos yn erbyn Grenoble.
Ond yn anffodus roedd hi’n brynhawn i’w anghofio wrth i fechgyn Paris golli 27-25 a llithro i bumed yn nhabl y Top 14.
Cafodd Jonathan Davies well lwc gyda Clermont fodd bynnag, gan chwarae gêm lawn wrth iddyn nhw drechu Oyonnax 18-9 i aros ar frig y gynghrair.
Yng Nghynghrair Aviva Lloegr fe ddechreuodd Rhys Gill yn rheng flaen y Saracens wrth iddyn nhw roi cweir o 40-19 i Sale er mwyn symud i frig y tabl – roedd Eifion Lewis-Roberts a Jonathan Mills ym mhac y gwrthwynebwyr.
Cipiodd Northampton y pwyntiau mewn gêm gyffrous yn erbyn Caerfaddon gan ennill o 31-24, er na wnaeth George North sgorio’r un o’r ceisiau.
Ceisiodd Caerfaddon, oedd â Paul James yn y pymtheg cyntaf a Gavin Henson a Dominic Day ar y fainc, ymladd yn ôl gyda Henson yn creu un o’u ceisiau, ond llwyddodd y tîm cartref i ddal gafael ar y fuddugoliaeth.
Fe greodd Phil Dollman a Tom James gais yr un wrth i Gaerwysg sicrhau buddugoliaeth gyfforddus 0 36-13 dros Harlequins ar y penwythnos.
Daeth Bradley Davies a John Yapp oddi ar y fainc i Wasps wrth iddyn nhw ennill 35-18 yn erbyn Newcastle, oedd â Warren Fury ar y fainc unwaith eto.
Collodd Caerlŷr yn annisgwyl gartref yn erbyn Gwyddelod Llundain, gydag Owen Williams yn dechrau yn y canol unwaith eto.
A doedd dim llawer o syndod wrth i Gaerloyw roi crasfa arall i Gymry Llundain, gyda’r sgôr terfynol yn 46-10.
Dechreuodd James Hook a Richard Hibbard i Gaerloyw ac roedd Tom Isaacs ar y fainc, gyda Hook yn trosi un cais ond yn gadael y prif ddyletswyddau cicio i Greg Laidlaw.
Roedd James Down a Nathan Trevett ym mhymtheg cyntaf Cymru Llundain, gyda Rob Lewis a James Lewis ar y fainc.
Seren yr wythnos – Jon Davies. Gêm lawn arall iddo, ac mae wedi cael dechrau da i’w yrfa yn Ffrainc.
Siom yr wythnos – Dan Lydiate. Wedi’i chael hi’n anodd cael lle yn nhîm Racing Metro, a fydd colli ar y penwythnos ddim yn helpu’i achos.