Aaron Ramsey
Gyda llai na phythefnos i fynd nawr nes gemau rhagbrofol Ewro 2016 nesaf Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus, mae’r sylw eisoes wedi dechrau troi at bwy fydd yn y garfan.
Ac mae gan gefnogwyr reswm i boeni eisoes, ar ôl i Aaron Ramsey orfod dod oddi ar y cae i Arsenal eiliadau cyn yr egwyl yn erbyn Spurs gydag anaf i linyn y gâr.
Fe ddywedodd ei reolwr Arsene Wenger ei fod yn disgwyl i Ramsey fod allan am bythefnos, ond yn ôl y Telegraph fe allai’r anaf ei gadw allan am chwe wythnos – rheswm mawr i Gymru boeni.
Mae Joe Allen hefyd allan ag anaf i Lerpwl ar y funud, ond nôl yn ymarfer, ac ni ddaeth Andy King oddi ar y fainc wrth i Gaerlŷr golli 2-0 i Crystal Palace.
Roedd hynny’n gadael Joe Ledley, i Palace, fel yr unig Gymro canol cae i chwarae yn yr Uwch Gynghrair dros y penwythnos.
Fe chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor gêm lawn eto i Abertawe yn yr amddiffyn wrth iddyn nhw gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Sunderland.
Ond lle ar y fainc yn unig oedd i amddiffynwyr eraill Cymru, James Collins a James Chester, gyda’u clybiau – o leiaf dylai hynny ddim achosi mwy o anafiadau!
Yr un pwysicaf i gadw’n ffit wrth gwrs yw Gareth Bale, ac fe ddaeth e drwy 90 munud wrth i Real Madrid drechu Villarreal 2-0.
Y Bencampwriaeth
Cafwyd gêm gyffrous brynhawn Sul yn y Madejski wrth i Reading a Wolves rannu’r pwyntiau a’r sgôr yn 3-3.
Cipiodd Jake Taylor un o goliau Reading ac fe wnaeth Lee Evans yr un peth i Wolves, gyda Chris Gunter a Dave Edwards hefyd yn chwarae.
Rhwydodd Dave Cotterill y gôl agoriadol i Birmingham wrth iddyn nhw herio Fulham, ond yn anffodus iddyn nhw colli 2-1 oedd eu hanes.
Ennill wnaeth timau Joel Lynch (Huddersfield) ac Elliot Hewitt (Ipswich), tra bod Andrew Crofts (Brighton) a Rhoys Wiggins (Charlton) wedi chwarae mewn gemau di-sgôr.
Ond colli 2-0 yn anffodus oedd hanes Emyr Huws gyda Wigan, a Craig Davies gyda Bolton.
Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw gôl dda i Walsall wrth iddyn nhw ennill 3-0, ac yn y gemau eraill fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Joe Walsh, Gwion Edwards, Jake Cassidy, James Wilson a Josh Pritchard.
Seren yr wythnos – Jake Taylor. Gôl arall i Reading, ac yn amserol iawn o ystyried absenoldeb rhai o ymosodwyr eraill Cymru.
Siom yr wythnos – Aaron Ramsey. Anaf iddo ef oedd y pethau olaf yr oedd Cymru ei angen.