Fe fydd cyn-garcharor ym Mae Guantanamo yn cerdded yn rhydd o’r carchar heddiw ar ôl i erlynwyr benderfynu gollwng saith cyhuddiad yn ymwneud a brawychiaeth yn ei erbyn.

Fe ymddangosodd Moazzam Begg, 45 oed, gerbron yr Old Bailey drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Wilkie wrth Begg na fydd yr erlyniad yn cyflwyno tystiolaeth yn ei erbyn yn dilyn adolygiad o’r achos.

Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn Llundain yn ddiweddarach heddiw.

Mae Begg, sy’n dod o Birmingham, wedi bod yn y carchar ers saith mis ac roedd disgwyl i’r achos ddechrau ddydd Llun.

Mewn gwrandawiad cynharach roedd wedi pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau.

Ond mewn gwrandawiad heddiw fe ddywedodd yr erlyniad, yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth, nad oedd achos i’w ateb.

Roedd Begg wedi wynebu saith cyhuddiad yn ymwneud a brawychiaeth gan gynnwys mynd i wersyll hyfforddi brawychwyr yn Syria rhwng 9 Hydref 2012 a 9 Ebrill 2013.