Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o fyrgleriaeth ar ôl torri i mewn i dŷ dynes oedrannus yng Nghilâ yn Abertawe.

Mae’r ddynes 93 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Fedi 29.

Cafodd y bachgen ei arestio’r diwrnod canlynol, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe heddiw.