Mae awyrennau Awyrlu Prydain wedi cynnal cyrchoedd awyr tros Irac dros nos, wrth i ragor o ganolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) gael eu targedu.
Roedd dwy awyren tornado’r Awyrlu wedi targedu tryc a cherbyd arall i’r gorllewin o ddinas Baghdad.
Dyma’r ail waith i luoedd y DU dargedu safleoedd IS ers i Brydain ymuno yn yr ymgyrch filwrol rynglwadol wythnos ddiwethaf.
Cynyddu mae’r galwadau i ymestyn y cyrchoedd awyr i Syria.
Mae Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain, Iain Duncan Smith yn mynnu bod y Cabinet yn gryf o’r farn y dylid ymdrin â’r grŵp yn Syria.
Yn y cyfamser, mae gwraig y gwystl Alan Henning wedi apelio unwaith eto ar i’r Wladwriaeth Islamaidd ryddhau ei gŵr.
Cafodd y gyrrwr tacsi 47 oed o Salford ei gipio fis Rhagfyr diwethaf ac fe ymddangosodd mewn fideo’n ddiweddar oedd yn dangos gwystl arall, David Haines yn cael ei lofruddio.
Bellach, mae trydydd fideo yn dangos bod y newyddiadurwr John Cantlie hefyd wedi cael ei gipio ganddyn nhw.
Yn y fideo, mae’r gwystl wedi’i orfodi i ddarllen sgript sy’n beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama am gynnal cyrchoedd awyr.