David Cameron
Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd David Cameron yn cyhoeddi addewid i warchod y Gwasanaeth Iechyd rhag toriadau ariannol am bum mlynedd petai ei blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mewn araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, mae disgwyl iddo roi addewid i godi gwariant y GIG ochr yn ochr â chwyddiant tan 2020.
Byddai Llywodraeth Geidwadol hefyd yn gwella cyfleoedd swyddi a thai i deuluoedd Prydain petai nhw’n dod i’r brig yn yr etholiadau ym mis Mai 2015, yn ôl Cameron.
Economi
Bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth y gynhadledd bod y Ceidwadwyr am barhau i gynnal cyllideb y Gwasanaeth Iechyd ac am fuddsoddi mwy ynddo, yn benodol mewn ymchwil i DNA:
“Mae hynny’n bosib am ein bod ni wedi rheoli ein heconomi yn gyfrifol hyd yn hyn. Ac mi fyddwn ni’n gwneud hyn eto.”
Mae disgwyl iddo ofyn i bleidleiswyr am bum mlynedd arall mewn grym er mwyn gorffen y dasg o adfer economi Prydain.
Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Ed Miliband y byddai e’n recriwtio 20,000 o nyrsys, 8,000 o feddygon teulu, 3,000 o fydwragedd a 5,000 o ofalwyr fel rhan o system iechyd mwy integreiddiedig.
.