Bydd menter arloesol i help cyn-filwyr ar gael ar draws Cymru am y tro cyntaf o heddiw ‘mlaen.
Mae Change Step yn cynnig gwasanaeth mentora a chynghori gan gyn-filwyr i gyn-filwyr eraill sydd am wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau.
Nod y gwasanaeth yw cefnogi’r rhai sy’n edrych am gymorth ar gyfer problemau a gafwyd o ganlyniad i ddyletswydd filwrol drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a chyfeirio at wasanaethau iechyd a lles perthnasol.
Mae enghreifftiau o bynciau seico-gymdeithasol yn cynnwys diweithdra, bod yn ddigartref, problemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio cyffuriau.
Sefydlwyd Change Step yn Llandudno yn 2012 gan Cais, yr elusen cyffuriau ac alcohol yng Ngogledd Cymru.
I gydnabod llwyddiant y rhaglen mae Cais wedi cael grant o £1 filiwn drwy gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog LIBOR Llywodraeth y DU i greu gwasanaeth Change Step i Gymru gyfan.
Bydd y gwasanaeth cenedlaethol yn cael ei ddarparu gan aelodau o’r consortiwm ‘Elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru’.
‘Cefnogaeth’
Dywedodd Clive Wolfendale, prif weithredwr Cais: “Mae hwn yn ddiwrnod arloesol i Change Step a chyn-filwyr ledled Cymru.
“Mewn ychydig dros 5 mis mae Change Step wedi derbyn dros 300 o atgyfeiriadau o bob cwr o Gymru ac wrth i ymwybyddiaeth o’r prosiect ledu rydym yn rhagweld y bydd y niferoedd hyn yn cynyddu yn raddol.
“Yn ogystal â chynnig cefnogaeth cyfoedion, bydd y tîm yn cyfeirio cyn-filwyr at wasanaethau eraill megis cynghori, cyflogaeth a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.”
Mae Change Step ar gael i gyn-filwyr , cyn- aelodau o’r gwasanaethau brys, goroeswyr trawma a’u teuluoedd.
Bydd y fenter yn cael ei lansio dros Gymru yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd heddiw. Bydd y digwyddiad yn cynnwys araith gan Kirsty Williams AC a noddwr Change Step, y Brigadydd Gerhard Wheeler.
Gallwch gysylltu â’r tîm Change Step drwy ffonio 0300 777 2259 neu e-bostiwch ask@change – step.co.uk.