Mae elusennau amlwg, sefydliadau, athrawon ac awduron plant yn lansio cenhadaeth genedlaethol yng Nghymru heddiw i gael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025.
Nod clymblaid Darllena.Datblyga yw creu cenedl o ddarllenwyr cryf.
Maen nhw’n bwriadu gwneud hynny drwy gefnogi rhieni i ddarllen gyda phlant ifanc am ddeng munud y dydd, annog y cyhoedd i wirfoddoli i helpu plant dan anfantais i wella eu darllen a thrwy annog pob plaid wleidyddol i gefnogi eu targed o gael plant i ddarllen yn dda erbyn 2025.
Yn ôl adroddiad gan Estyn, nid oes gan 40% o blant 11 oed yng Nghymru sgiliau darllen da iawn.
Yn cefnogi’r genhadaeth mae nifer o awduron plant Cymru gan gynnwys Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Elin Meek, Manon Steffan Ros, Jon Gower, Jenny Sullivan, Allan Cliff, Dan Anthony ac Elen Caldecott.
Mae’r awduron wedi sgwennu storïau 10 munud y gall rhieni fwynhau darllen gyda’u plant. Mae’r storïau ar gael i’w darllen ar-lein ar www.readongeton.org.uk ac yn Gymraeg ar www.y-cymro.com.
‘Problem sy’n tyfu’
Dywedodd yr awdur a’r darlledwr Jon Gower: “Mae methu â darllen yn dda yn broblem sy’n tyfu, yn arbennig, mae’n ymddangos, mewn ardaloedd sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd a chymdeithasol.
“Mae’n broblem sydd angen ei thaclo er mwyn galluogi ein plant i gael bywydau da sy’n llawn boddhad a dyfodol boddhaol.”
Bydd Darllena.Datblyga yn cael ei lansio heddiw yn Llyfrgell Ganolog Abertawe rhwng 10.30yb a 12yp.