Ieuan Williams
Mae cynghorwyr Môn wedi gwrthod cynlluniau i uno’n wirfoddol gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth fwrw pleidlais ddoe, roedd cynghorwyr o’r farn y byddai uno yn cael “effaith andwyol” ar drigolion yr ynys o safbwynt darparu gwasanaethau; democratiaeth ac atebolrwydd yn lleol; effaith ar yr economi leol a lefelau Treth Gyngor.
Er mwyn arbed arian, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi nifer cynghorau Cymru o 22 i tua 11 ac wedi gofyn i arweinwyr ystyried uno’n wirfoddol.
Ond yn ôl Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod manteision i uno ac yn sicr ni fydd yn ateb i’r toriadau ariannol enfawr gaiff eu hwynebu gan gynghorau ar hyd a lled Cymru.”
Mae cynghorau ledled Cymru yn galw am gyfarfod brys gyda’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, Leighton Andrews AC, er mwyn deall mwy am y broses uno.
Cyllid
Ychwanegodd Ieuan Williams: “Rwyf eisoes wedi lleisio fy ngwrthwynebiad personol i uno gwirfoddol ac rwy’n falch bod y farn yma nawr wedi’i gefnogi gan y Cyngor Llawn.”
Ac yn ôl y Cynghorydd Arwel Roberts, mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gwestiynau i’w hateb er mwyn argyhoeddi cynghorau i uno:
“Rydym yn erbyn uno gwirfoddol o ystyried y gost enfawr fyddai’n gysylltiedig. Efallai nad yw’r status quo yn opsiwn, ond mae yna nifer o gwestiynau sydd dal angen eu hateb gan Lywodraeth Cymru.”
Cyhoeddodd y Llywodraeth ddoe bod mwy na £193miliwn yn llai yng nghyllideb Llywodraeth Leol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae cynghorau wedi rhybuddio y bydd yn rhaid dod a rhai gwasanaethu i ben.
Bydd Môn yn gorfod arbed hyd at £20 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.