Mae merch 15 oed o Fryste wedi mynd ar goll ac mae ’na ddyfalu ei bod yn ceisio teithio i Syria yn dilyn pryderon ei bod wedi cael ei radicaleiddio, meddai’r heddlu.

Deellir bod y ferch, sydd heb gael ei henwi, yn Nhwrci ac yn bwriadu teithio dros y ffin i Syria.

Fe ddiflannodd o’i chartref wythnos ddiwethaf.

Dywedodd dirprwy brif gwnstabl heddlu Avon a Gwlad yr Haf, Louisa Rolfe: “Fe allen ni gadarnhau bod merch 15 oed o Fryste wedi teithio i Dwrci ac rydym yn deall efallai ei bod yn bwriadu teithio i Syria.

Ers i’w rhieni adrodd ei bod ar goll rydyn ni wedi cynnal ymchwiliadau i geisio darganfod beth wnaeth hi yn y cyfnod ers iddi adael ei chartref a chyrraedd Istanbwl yn Nhwrci.

“Rydym yn rhoi pob cefnogaeth i’w theulu, rydym eisiau darganfod lle mae hi a’i hannog i ddychwelyd adref yn ddiogel.

“Mae ’na awgrymiadau ei bod wedi cael ei radicaleiddio ond ar hyn o bryd ein blaenoriaeth yw dod o hyd iddi cyn iddi groesi’r ffin i Syria a gwneud yn siŵr ei bod yn ddiogel.

“Yn aml mae Mwslimiaid ifanc sy’n mynd i Syria yn gallu bod yn naïf ac nid ydyn nhw’n sylweddoli eu bod nhw’n cael eu hannog i ymuno a grwpiau eithafol.”