Neuadd Buddug yn Y Bala
Mae cymuned Y Bala a Phenllyn wedi dod at ei gilydd i sefydlu pwyllgor er mwyn ceisio mynd ati i geisio achub Neuadd Buddug yn y dref.

Daeth tua 70 o bobol i gyfarfod neithiwr i leisio eu gwrthwynebiad i gynlluniau Cyngor Gwynedd i gau’r adeilad oherwydd ei gyflwr gwael a’r angen i fuddsoddi mewn offer darlledu ffilmiau digidol newydd.

Penderfynodd y trigolion sefydlu pwyllgor llywio gyda’r bwriad o greu cwmni cymunedol i redeg y neuadd.

Mae trefnydd y cyfarfod, Nansi Thirsk, wedi dweud ei bod yn “hyderus” am ddyfodol y neuadd.

Agorwyd Neuadd Buddug yn 1890 ac mae’n gartref i sinema’r ardal ac i ddramâu teithiol.

Cefnogaeth

“Rydan ni wedi penderfynu creu grŵp llywio ac mae aelodau o hwnnw wedi cael eu penodi heno,” meddai Nansi Thirsk ar y Post Cyntaf bore ma.

“Ein bwriad ni yw gofyn i’r cyngor am gael cyfarfod hefo nhw yn weddol fuan, gyda chefnogaeth gan ein cynghorwyr lleol.

“Dwi’n reit hyderus bod digon o ddiddordeb a chefnogaeth i’r fenter gan y gymuned.”

Esboniodd Nansi Thirsk fod bwriad hefyd i gwrdd hefo Mantell Gwynedd i holi mwy am greu cwmni cymunedol.

Trafodaethau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n awyddus i gydweithio gyda’r gymuned i gynllunio darpariaeth gelfyddydol fodern i ardal Penllyn i’r dyfodol.

“Yn hyn o beth, mae trafodaethau yn parhau gyda chynghorwyr cylch y Penllyn.”