Christopher Salmon
Mae is-gadeirydd y panel heddlu a throsedd wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys i ystyried ei sefyllfa.
Daeth y galwad gan gynghorydd Plaid Cymru Alun Lloyd Jones oherwydd bod Christopher Salmon wedi rhyddhau datganiad i’r wasg oedd yn dadlau yn erbyn cynlluniau’r Blaid Lafur i ddiddymu swydd Comisiynwyr yr Heddlu petae nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Yn y datganiad, sy’n ymateb i sylwadau Yvette Cooper yng Nghynhadledd y Blaid Lafur wythnos diwethaf, dywedodd Christopher Salmon y byddai ei chynlluniau yn “dychwelyd atebolrwydd yr heddlu i fyd tywyll cytundebau ystafell gefn rhwng y prif gwnstabliaid a chynghorwyr lleol.”
Meddai hefyd bod atebolrwydd ar y cyd yn golygu “dim atebolrwydd” ac mai dyna wnaeth arwain at sgandalau fel yr un yn Rotherham.
Ond dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones ar Newyddion 9 BBC Cymru neithiwr na all y Comisiynydd bwyntio bys heb ei “gefnogi gyda ffeithiau.”
Gofynnodd hefyd a oes hawl gan Salmon bellach i “fod yn Gomisiynydd yr Heddlu yn yr ardal yma.”
Ond mae Christopher Salmon wedi wfftio’r feirniadaeth gan ddweud nad oes ganddo ddim i ymddiheuro amdano.
Ychwanegodd bod rôl y comisiynydd wedi creu rhagor o atebolrwydd i luoedd yr heddlu.