Nigel Farage, arweinydd UKIP
Mae’r Ceidwadwyr wedi cael ergyd arall ar ôl i un o gyd-weithwyr Boris Johnson gyhoeddi ei fod yn ymuno a UKIP.

Wrth esbonio ei benderfyniad, fe ddywedodd cyn-ddirprwy faer Llundain, Richard Barnes, nad yw’r Ceidwadwyr yn medru “siarad iaith y bobol gyffredin”.

Roedd o’r farn mai plaid Nigel Farage yw’r unig blaid fyddai’n medru cymryd rheolaeth o brosiect rheilffordd cyflym HS2, estyniad maes awyr Heathrow a phroblemau mewnfudo.

“Mae’n amlwg fod San Steffan wedi datgysylltu eu hunain o fywydau’r bobol gyffredin,” meddai Richard Barnes wrth yr Evening Standard.

Mark Reckless

Daw’r newydd ar ôl i un o Aelodau Seneddol meinciau cefn y Torïaid, Mark Reckless, gyhoeddi ei fod yn ymuno ag UKIP dros y penwythnos. Roedd yntau’n beio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol am ei benderfyniad.

Mae adroddiadau bod dau neu dri o ASau Ceidwadol eraill yn bwriadu dilyn Mark Reckless drwy adael y blaid ag ymuno a UKIP.

Dywedodd Boris Johnson ddoe y byddai unrhyw ASau sy’n ystyried ymuno ag UKIP yn “wallgof”.