Wylfa, Ynys Mon
Fe fydd gweithwyr yn Wylfa ar Ynys Môn yn cael gwybod yn ddiweddarach heddiw a fydd yr atomfa’n derbyn estyniad i barhau i gynhyrchu trydan am flwyddyn arall.

Y bwriad oedd cau adweithydd rhif un, sydd wedi bod ar agor ers 1971 ac yn un o’r hynaf ym Mhrydain, ar ddiwedd mis Medi.

Ond mae perchnogion y safle, Magnox, wedi gofyn i’r Swyddfa Rheoleiddio Ynni Niwclear am ganiatâd i ymestyn y dyddiad hwnnw tan fis Rhagfyr 2015.

Cafodd yr atomfa ei gau am bum mis ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd gwaith cynnal a chadw a bu’n rhaid cau’r adweithydd ym mis Gorffennaf am fod stêm yn gollwng ohono.

Mae cwmni Horizon yn bwriadu adeiladu atomfa newydd ar y safle yn 2018 ac mae ymgynghoriad cyhoeddus o ddeg wythnos wedi dechrau.