Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sydd wedi gweld y cynnydd lleiaf ym mhrisiau tai ar draws Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe gododd prisiau yn y brifddinas 7%, sy’n gymharol fach o’i gymharu â St Albans yn Hertfordshire a welodd gynnydd o 24%.

Yng ngweddill Cymru, mae pris tŷ wedi codi 5% dros y flwyddyn ddiwethaf i gyrraedd £144,096.

Newcastle oedd y ddinas wnaeth berfformio waethaf, gyda chynnydd o 4%.

Arafu

Daw’r newydd wrth i Nationwide gyhoeddi bod cynnydd ym mhrisiau tai ar draws Prydain wedi arafu i 9.4% ym mis Medi, o’i gymharu â 11% ym mis Awst. Y mis diwethaf, roedd prisiau tai wedi codi i’w lefel uchaf erioed.

Dywedodd prif economydd Nationwide, Robert Gardner fod y rhagolygon ar gyfer y farchnad dai ym Mhrydain yn “parhau yn ansicr”.