Cafodd dyn 25 oed o Gaerdydd ei arestio a’i gyhuddo ddoe, yn dilyn ymosodiad ar dair merch a dyn yn ardal Cathays o’r brifddinas.
Digwyddodd yr ymosodiad ger Gerddi Ruthun fore dydd Mercher diwethaf, ac yn dilyn apêl i’r cyhoedd am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, cafodd y dyn ei arestio o fewn pedair awr.
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.
“Roedd y digwyddiad yn drawmatig iawn i’r pedwar dioddefwr ac rwy’n medru eu sicrhau nhw a gweddill y gymuned fod dyn 25 oed o Gaerdydd wedi cael ei arestio a’i gyhuddo o ymosod,” meddai’r Rhingyll Richard Haines.
Bydd y dyn 25 oed yn ymddangos gerbron llys ar 10 Hydref.