Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn defnyddio ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol heddiw i amlinellu cyfres o fesurau i fynd i’r afael a grwpiau eithafol.
O dan y cynlluniau fe fyddai gorchmynion newydd yn caniatáu i’r awdurdodau wahardd grwpiau eithafol, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n peri bygythiad.
Fe fydd clerigwyr eithafol hefyd yn cael eu targedu gyda gorchmynion yn caniatáu i’r llysoedd wahardd unigolion rhag siarad mewn digwyddiadau cyhoeddus, cymryd rhan mewn protestiadau a darlledu eu negeseuon, er mwyn atal y risg o drais neu anrhefn gyhoeddus.
Bydd y ddau orchymyn newydd yn cael eu cynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf ond fe fydd Theresa May hefyd yn cyhoeddi strategaeth newydd i fynd i’r afael ag eithafwyr.
Y Swyddfa Gartref fydd yn cymryd y cyfrifoldeb am yr holl agweddau yn ymwneud ag eithafiaeth.