Brooks Newmark - wedi mynd
Mae un o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr wedi ymddiswyddo wedi iddi ddod yn amlwg iddo anfon negeseuon o natur rywiol ar y we.
Fe gafodd Brooks Newmark, sy’n aelod o’r Cabinet yn San Steffan, ei dwyllo gan newyddiadurwr i anfon lluniau o’i gorff.
Yn ôl papur y Sunday Mirror, roedd Mr Newmark – Gweinidog Cymdeithas y llywodraeth glymblaid – wedi rhannu lluniau o’i gorff dros y we gyda newyddiadurwraig oedd yn cymryd arni fod yn weithwraig PR i’r blaid Dorïaidd.
Fe gyflwynodd y gwr priod, 56 oed, ei ymddiswyddiad ar ôl deall fod y papur yn bwriadu cyhoeddi stori – a’r lluniau – heddiw.
“Rydw i wedi penderfynu ymddiswyddo,” meddai mewn datganiad, “ac rydw i’n gofyn yn garedig i bawb barchu preifatrwydd fy nheulu ar yr adeg anodd hwn.”