Fe fu esgob Pabyddol yn ymddiheuro i eglwyswyr ddoe, wedi iddo ymddiswyddo o’i waith. Mae’n honni iddo ddwyn anfri ar ei esgobaeth a’r eglwys.
Fe gyhoeddodd yr Esgob Kieran Conry, a fu’n gyfrifol am esgobaeth Pabyddol Arundel a Brighton, ddatganiad lle mae’n cyfadde’ bod “yn anffyddlon i’w addewidion fel offeiriad Pabyddol”.
Yn ôl y datganiad, sy’n cael ei ddarllen ym mhob un o’i eglwysi y penwythnos hwn: “Mae’n ddrwg gen i orfod cyffesu fy mod, rai blynyddoedd yn ôl, wedi bod yn anffyddlon i’r addewidion wnes i fel offeiriad.
“Hoffwn eich cysuro trwy ddweud nad oedd un dim wnes i’n anghyfreithlon, a doedd ganddyn nhw ddim oll i’w wneud â phlant. ]
“Ond, dw i wedi penderfynu ymddiswyddo o fod yn esgob yn syth bin, ac mi fydda’ i’n cymryd ychydig o amser i ystyried fy nyfodol.
“Dw i eisiau ymddiheuro i fy mhlwyfolion a phawb gafodd eu brifo gan fy ngweithredoedd, ac yna wrth bawb oddi mewn ac oddi allan i’r esgobaeth a fydd yn cael eu dychryn a’u tristhau o glywed hyn.
“Mae’n ddrwg gen i am y cywilydd dw i’n ei ddwyn ar yr esgobaeth ac ar yr Eglwys, a dw i’n gofyn ar ichi weddïo drosta’ i a maddau i mi.”