Mark Reckless - wedi gadael y torïaid am ukip
Mae un o Aelodau Seneddol meinciau cefn y Torïaid wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno ag Ukip.

Mark Reckless sy’n cynrychioli Rochester a Strood yn San Steffan – ac mae’n beio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol am ei benderfyniad.

“Mae arweinyddiaeth y blaid Geidwadol yn rhan fawr o’r broblem sy’n dal ein gwlad yn ôl,” meddai, gan annerch cynhadledd Ukip yn Doncaster a derbyn cymeradwyaeth fyddarol.

“Mae’r etholwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu twyllo, a bod gwleidyddion Torïaidd yn dweud celwydd wrthyn nhw.

“Heddiw, dw i’n gadael y blaid Geidwadol ac yn ymuno ag Ukip,” meddai wedyn.