Mae pennaeth gwasanaeth meddygol gwlad Liberia wedi ei hynysu ei hun am 21 niwrnod, oherwydd bod ei chynorthwy-ydd wedi marw o’r clefyd Ebola.

Mae Bernice Dahn, wedi cadarnhau wrth y cyfryngau nad ydi hi’n diodde’ o Ebola, ac nad oes ganddi unrhyw sumtomau, ond ei bod eisiau gwneud yn siwr.

Mae Ebola wedi lladd mwy na 3,000 o bobol yng ngwledydd gorllewin Affrica, ac mae wedi bwrw Liberia yn arbennig o galed.

Mae Bernice Dahn wedi bod yn wyneb amlwg mewn cynhadleddau i’r wasg, lle mae wedi bod yn rhannu gwybodaeth ac yn siarad am y gwaith anodd o frwydro’r clefyd a cheisio rhwystro’r epidemig.

Am hynny, meddai, mae hi hefyd wedi gorchymyn i’w staff aros gartref o’r gwaith am dair wythnos.