Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi crybwyll y posibilrwydd o ymestyn y cyrch i fomio Isis yn Irac i Syria hefyd, gan ddweud nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol dros newid ffocws yr ymgyrch.
Wrth gychwyn trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ynghylch rhoi sêl bendith i weithredu’n filwrol yn Irac, rhybuddiodd Cameron y gallai’r gweithredu yno bara am flynyddoedd.
Awgrymodd hefyd ei fod yn fodlon ymestyn yr ymgyrch heb sêl bendith y Senedd petae catastroffi dyngarol.
Tra’n dweud ei fod wedi penderfynu cyfyngu Prydain i fomio Isis yn Irac oherwydd gwrthwynebiad Llafur, fe fynnodd: “Rydw i yn credu bod achos cryf dros wneud mwy yn Syria. Ond mae hi’n wir i ddweud fod y sefyllfa yn Syria yn fwy cymhleth na’r sefyllfa yn Irac.”
Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid bomio targedau Isis yn Irac.