Mae mwy o fyfyrwyr yng Nghymru’n dewis astudio Mathemateg bellach ar ôl iddyn nhw droi’n 16 oed a mwy wedi cael cymhwyster Lefel A yn y pwnc.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ei rhaglen beilot, gafodd ei lansio yn 2010 ac sy’n anelu i gael mwy o ddisgyblion i barhau i astudio’r pwnc, oedd i ddiolch am y cynnydd.

Yn ôl adroddiad gyhoeddwyd heddiw mae mwy o fechgyn yn astudio’r pwnc o’i gymharu â merched.

Yn ogystal roedd cynnydd yn nifer yr ysgolion sy’n cynnig Mathemateg Bellach fel pwnc yn ardal y rhaglen beilot.

Daw hyn yn sgîl adroddiad gafodd ei ryhhdau ar ddechrau’r mis waneth dangos  mai’r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith myfyrwyr oedd addysg, y celfyddydau creadigol a phynciau’n ymwneud â meddygaeth.

Calonogol

“Mae canfyddiadau’r gwerthusiad hwn o’r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach yn galonogol iawn,” meddai’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.

“Mae gwybodaeth gadarn o Fathemateg yn sgil hanfodol i fywyd ac yn un sy’n cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr. Dyna’r rheswm pam i ni fuddsoddi yn y rhaglen gymorth beilot.”