Fe fydd bachgen 16 oed yn ymddangos gerbron llys y prynhawn yma ar gyhuddiad o lofruddio dyn yng Nghaerffili.
Bu farw Michael Lee Emmett, 31, ar 2 Medi ar ôl cael ei drywanu yn y Coed Duon yng Nghaerffili. Roedd yn dad i ddau o blant.
Ddoe, fe gadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi cyhuddo llanc 16 oed o’r llofruddiaeth.
Bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd y prynhawn yma.