Fe fydd safonau’n siŵr o ddisgyn os yw Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â chynlluniau i dorri’r gyllideb addysg, yn ôl undeb athrawon.
Byddai hyn yn peryglu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn addysg yng Nghymru dros y misoedd diwethaf, yn ôl NUT Cymru.
Yn ôl Plaid Cymru, fe fyddai toriad i’r cyllid yn torri un o addewidion Llafur Cymru cyn yr etholiad diwethaf.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn wynebu sefyllfa heriol.
Mae’r NUT wedi ysgrifennu i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis i amlinellu’u pryderon, gan rybuddio y bydd amryw o fentrau yn ogystal â safonau cyffredinol addysg yn dioddef petai arian yn cael ei gymryd o’r gyllideb.
Ac yn ôl ysgrifennydd NUT Cymru mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl ei chynlluniau.
“Bydd cymryd nôl miliynau o bunnoedd o gyllid fel rhan o doriadau cyllid canol-blwyddyn yn cael effaith fawr ar y sector addysg yng Nghymru,” mynnodd David Evans.
“Os yw’r toriadau hyn yn digwydd yna fe fydd cynnydd y misoedd diwethaf – y canlyniadau TGAU a Lefel A gwych, gwella’r Cyfnod Sylfaenol, gwella ffigyrau presenoldeb, yn ogystal â llawer o bethau positif eraill mewn dosbarthiadau eraill ar draws Cymru – yn cael eu peryglu.
“Rydyn ni o bosib yn peryglu nid yn unig y camau rydym ni wedi cymryd, ond llwyddiant yn y dyfodol.”
Dywedodd y gallai toriad i gyllidebau effeithio ar ysgolion sydd eisoes wedi arwyddo cytundebau i ddechrau mentrau newydd.
“Mae’n anodd dychmygu sut all y toriadau yma beidio â pheryglu safonau,” ychwanegodd David Evans.
Plaid yn beirniadu
Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ystyried torri’r gyllideb addysg, gan eu cyhuddo o dorri addewid yn eu maniffesto i gadw arian addysg ar 1% yn fwy na’r grant bloc.
“Cyn yr etholiad, addawodd y Blaid Lafur sicrhau y byddai gwario ar addysg yn aros 1% yn uwch na’r grant bloc,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas. “Nid yw hyn wedi digwydd.
“Dros yr haf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gyfres o doriadau i wahanol feysydd o wariant addysg, megis y Grant Amddifadedd Disgyblion, y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion, a phrentisiaethau. Bydd effaith y toriadau hyn, o’u rhoi ynghyd, yn enfawr.
“Mae addewid etholiadol Llafur yn deilchion oherwydd cynllunio gwael a methiant i reoli cyllidebau mewn meysydd polisi eraill.
“Rwy’n arbennig o bryderus y caiff y toriadau hyn effaith negyddol anghymesur ar ddisgyblion o gefndiroedd llai breintiedig, er bod y llywodraeth wedi honni fod codi cyrhaeddiad y disgyblion hynny yn flaenoriaeth.”
Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb, fe fynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn taro’u targed o godi’r gyllideb addysg o 1% ond eu bod yn wynebu sefyllfa ariannol heriol.
“Rydym ni wedi bod yn hollol agored am y sefyllfa ariannol heriol sydd yn ein hwynebu,” meddai’r llefarydd.
“Erbyn 2015-16 fe fydd ein cyllideb bron £1.7biliwn yn llai nag yr oedd yn 2010-11. Mae’n gyfrifoldeb arnom ni yn y sector gyhoeddus, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac ysgolion i ymateb i’r sialensau hyn.
“Gadewch i ni fod yn glir, fodd bynnag – rydym wedi gwireddu’n hymrwymiad i gynyddu cyllideb i ysgolion o 1% yn uwch na newidiadau i gyfanswm cyllideb Cymru, ac mae’n monitro ni o gyllidebau awdurdodau lleol wedi cadarnhau fod hynny’n wir.”