Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi beio’r diwylliant ‘lad culture’ am siartiau rhyw – ‘shag charts’ – gafodd eu dosbarthu i rai myfyrwyr o Gaerdydd yn ystod Wythnos y Glas.
Yn ôl Jacob Ellis, mae agwedd o’r fath yn “rhemp” mewn prifysgolion ac mae angen gwneud mwy i daclo’r peth.
Yr wythnos hon fe ddaeth i’r amlwg fod pecynnau oedd ar werth gan gwmni hyrwyddo Climax Promotions i fyfyrwyr yn y brifddinas yn cynnwys ‘shag chart’, er mwyn cadw sgôr o bartneriaid rhywiol.
Mae’r siart yn cynnwys lle ar gyfer deg cofnod, yn ogystal â cholofn i bobl ysgrifennu’u straeon mwyaf gwyllt o’r wythnos.
Roedd y pecyn, oedd yn costio £25 ac yn cynnwys tocynnau i’r rhan fwyaf o’r nosweithiau mawr i fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos, hefyd yn cynnwys ‘chunder chart’ i gofnodi faint o weithiau oedd rhywun yn chwydu.
Undebau’n condemnio
Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wrth golwg360 fod siartiau fel hyn yn arwydd o ddiwylliant anffodus sydd yn parhau i fodoli mewn prifysgolion.
“Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn condemnio defnydd o’r ‘shag charts’ gan eu bod nhw’n annog ‘lad culture’,” meddai Jacob Ellis.
“Rydym yn hynod falch yn Aberystwyth o’n polisi ‘dim goddefgarwch’ at ymosodiadau rhywiol ac aflonyddwch rhywiol ac rydym yn hynod siomedig i glywed bod posteri o’r math yn cael eu creu ac yn cael eu dosbarthu i fyfyrwyr sydd yn tanseilio gwaith caled Undebau Myfyrwyr, elusennau a pholisïau ledled Cymru.
“Rydym yn falch i glywed bod Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn chwyrn yn erbyn y cwmni a’r siartiau ac rydym yn ategu hynny. Yn anffodus mae’r agwedd yma yn rhemp yn ein cymdeithas ac yn bodoli o fewn prifysgolion. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb yma!”
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd eisoes wedi condemnio’r siartiau, gan ddweud fod y cwmni hyrwyddo ddim byd i’w wneud â nhw.
“Dyw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddim yn cefnogi nac annog y math yma o ddeunydd hyrwyddo na ‘lad culture’,” medden nhw mewn datganiad.
“Rydym ni’n credu fod yr eitem wedi’i ddosbarthu gan gwmni allanol yn hyrwyddo’u hunain i fyfyrwyr. Mae cwmnïau o’r fath yn ceisio cael mynediad i gampws y brifysgol heb ganiatâd, yn enwedig yn ystod Wythnos y Glas.”