Fe gododd prisiau tai Llundain 21.6% yn y flwyddyn hyd at fis Awst, sef y cynnydd mwya’ ym mhrifddinas Lloegr ers 14 o flynyddoedd.

Drwyddi draw yn Lloegr fe gododd prisiau tai 8.4% dros yr un cyfnod, sef y cynnydd mwya’ ers 2007.

Tra mae cost cyfartalog tŷ yn Lloegr yn £177,824, yn Llundain mae’r pris bron deirgwaith yn fwy sef £467,070.

£118,814 yw pris cyfartalog tŷ yng Nghymru, sydd 3.4% yn uwch na’r hyn ydoedd flwyddyn yn ôl.