Bill Grimsey (o'i wefan www.vanishinghighsteet.com)
Mae’n gywilydd nad oes gan lywodraethau Prydain na Chymru weinidogion sy’n gyfrifol am adfywio busnesau’r stryd fawr, yn ôl arbenigwr busnes.
Ac mae Bill Grimsey, sy’n gyn-brif weithredwr ar nifer o gadwyni mawr, wedi galw am ddiddymu’r dreth fusnes a thâl am barcio yng nghanol trefi.
Fe ddywedodd wrth gynulleidfa o bobol fusnes o Lanbed a gweddill Dyffryn Teifi nad oes modd troi’r cloc yn ôl a bod angen dod o hyd i atebion newydd i’r stryd fawr.
Ond tra oedd angen i fusnesau sylweddoli hynny ac ymateb trwy ganolbwyntio ar droi siopa yn “brofiad”, roedd yn pwysleisio bod rôl i lywodraeth leol hefyd.
Condemnio tâl parcio
Ac yntau wedi bod yn un o uchel swyddogion Tesco ac wedyn yn rheoli cwmnïau fel Wickes ac Iceland, fe ddywedodd fod angen i gynghorau lleol hefyd greu cynlluniau i hybu trefi.
Fe gondemniodd benderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i ddechrau codi am barcio mewn rhai llefydd a chynyddu’r gost mewn llefydd eraill – fe ddylai meysydd parcio gael eu gweld yn adnoddau i ddenu siopwyr, meddai, yn hytrach na ffordd o wneud arian.
Condemnio’r dreth fusnes
“Dyw’r dreth busnes ddim yn ateb y diben bellach,” meddai Bill Grimsey. “Dyma’r unig dreth sy’n dal i godi waeth beth sy’n digwydd i’r economi.”
Roedd ardaloedd fel rhannau o Gymru’n diodde’n arbennig wrth i werth eiddo gwympo, meddai, tra oedd siopau mewn ardaloedd cyfoethog yn ffynnu a’u trethi’n gostwng yn gymharol.
Fe ganmolodd weithredoedd Llywodraeth Cymru yn trefnu i ostwng y dreth fusnes i’r siopau lleia’.
Angen gweinidog penodol
Ond roedd ei brif feirniadaeth ar fethiant llywodraethau i gael gweinidogion i ganolbwyntio ar siopau – diwydiant, meddai, a oedd werth mwy na’r gwasanaethau mawr fel iechyd, addysg ac amddiffyn.
Hyd yn oed am dymor byr, nes gweld gweddnewid, roedd yn dweud y dylai fod gweinidogion yn San Steffan a Bae Caerdydd yn mynd i’r afael â’r bygythiad i’r stryd fawr.
“Mae’n anhygoel,” meddai Bill Grimsey, “nad oes gyda ni neb yn dadlau hynna o amgylch bwrdd y Llywodraeth.”
Cefndir
Roedd y cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Llanbed wedi ei drefnu gan Antur Teifi a Siambr Fasnach Llanbed.
Mae Bill Grimsey wedi cyhoeddi llyfr ar ‘farwolaeth’ y Stryd Fawr, wedi cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Prydain a, bellach, yn rhoi cyngor i’r Blaid Lafur ar bolisi yn y maes.