Nigel Farage
Fe fydd Nigel Farage yn ceisio mynd ar ôl pleidlais y dosbarth gwaith wrth gyhoeddi polisïau heddiw sydd wedi’u targedu tuag at bleidleiswyr Llafur.

Ac mae wedi beirniadu record y Llywodraeth Lafur yng Nghymru tros addysg ac iechyd.

Fe fydd yn siarad heddiw wrth i UKIP gynnal eu cynhadledd flynyddol yn Doncaster, tref yr arweinydd Llafur Ed Miliband.

Torri treth i’r tlota’

Mae disgwyl i’r blaid gyhoeddi y bydden nhw’n ailwampio’r system dreth er mwyn lleihau’r baich ar bobol sydd ar gyflogau isel, yn ogystal â diwygio’r Gwasanaeth Iechyd.

Fe fydden nhw hefyd yn addo dod o hyd i swyddi i bobol sy’n gadael y fyddin ar ôl cyfnod hir, a hynny yn yr heddlu, gyda’r gwasanaeth ffiniau neu’n swyddogion carchar.

Yn ôl papur y Daily Mail, fe fyddai UKIP hefyd yn torri’r gyfradd dreth ar gyfer pobol sy’n ennill rhwng £42,000 a £55,000, gan arbed yr arian ar gyfer hynny trwy dorri’r gyllideb gymorth ryngwladol, a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Nigel Farage, a fydd yn ymgeisydd yn South Thanet yn Swydd Caint yn yr etholiad nesaf, ymosod ar y Blaid Lafur am beidio ag amddiffyn y dosbarth gwaith yr oedd hi’n arfer ei gynrychioli.

“Llond llaw” o seddi

Yn ôl UKIP maen nhw’n anelu i ennill “llond llaw” o seddi yn yr etholiad cyffredinol nesaf ym mis Mai 2015.

Fe awgrymodd astudiaeth gan Brifysgol Nottingham yn gynharach eleni y gallai seddi Llafur yn Ashfield, Grimsby Fawr, Rotherham, Plymouth North View a Gogledd Dudley ddod o dan fygythiad gan UKIP y flwyddyn nesaf.

Cynyddu ond dim sedd yng Nghymru?

Mae’r pôl piniwn diweddara’ yng Nghymru’n awgrymu y gallai lefel eu cefnogaeth godi i 14% yng Nghymru ond, pe bai hynny’n gyfartal ar draws y wlad, fydden nhw ddim yn ennill sedd.

Mae disgwyl i’r blaid ennill ei sedd Seneddol gyntaf fis nesa’ ar ôl i’r AS Douglas Carswell adael y blaid Geidwadol a phenderfynu ymladd isetholiad o dan faner UKIP.

Ym mhapur yr Independent heddiw, fe ddywedodd Nigel Farage ei fod yn credu bod UKIP yn ail i’r Blaid Lafur yng ngogledd Lloegr bellach.

“Fe allwch chi fod yn siŵr y bydd ymgeiswyr UKIP cryf yn targedu seddi Llafur yng ngogledd Lloegr y flwyddyn nesaf,” meddai arweinydd UKIP.