Bob Kerslake
Mae cyn-bennaeth y gwasanaeth sifil wedi rhybuddio y bydd rhagor o dorri ar wario cyhoeddus – pwy bynnag fydd y Llywodraeth nesaf yn San Steffan.
Ac fe rybuddiodd Syr Bob Kerslake, a adawodd y swydd dros yr haf, y bydd y toriadau’n parhau tros y pum mlynedd nesa’ ac yn mynd yn galetach.
Roedd hynny, meddai, oherwydd bod y llywodraeth glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi gallu gwneud y penderfyniadau hawdd.
‘Mwy anodd’
“O dan unrhyw lywodraeth, rydym ni’n wynebu hyd at bum mlynedd arall o leihau ar wariant cyhoeddus,” meddai Syr Bob Kerslake mewn araith i’r Sefydliad Llywodraethol.
“Mae’r pum mlynedd cyntaf wedi bod yn heriol ond mae’r pum mlynedd nesaf yn debygol o fod yn anos fyth am dri rheswm.
“Yn gyntaf mae’r arbedion hawdd wedi’u gwneud yn barod. Yn ail, fe fyddwn ni’n gwneud hynny yng nghyd-destun economi sydd yn tyfu a chystadleuaeth fwy am staff. Yn drydydd, fe fydd llai o frys ynglŷn â’r arbedion nesaf o’i gymharu â’r pum mlynedd cyntaf.
“Mewn gwirionedd, dyw’r dasg heb ei gorffen eto.”
Ymddeol ymhen chwe mis
Cafodd Syr Bob Kerslake ei ddisodli o’i swydd yn bennaeth y gwasanaeth sifil gan David Cameron ym mis Gorffennaf, gyda’r cyn-Ysgrifennydd Cabinet Syr Jeremy Heywood yn cymryd ei le.
Fe fydd Kerslake yn aros yn prif ysgrifennydd i’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol tan fis Chwefror, pan fydd yn ymddeol yn 60 oed.