Llun yn hysbysebu'r cwch ar gyfer ei hurio
Mae llynges Iwerddon wedi meddiannu cwch oedd ar ei ffordd i Gymru gyda gwerth dros £100m o gocên arno.

Cafodd tri dyn o Swydd Efrog eu harestio ar y cwch 60 troedfedd, Makayabella, yn gynnar ar fore dydd Mawrth, wrth iddyn nhw hwylio’n agos i arfordir deheuol Iwerddon.

Roedd awdurdodau nifer o wledydd wedi bod yn dilyn y cwch wrth iddo hwylio o Venezuela i ynys Trinidad cyn croesi Môr Iwerydd.

Y gred oedd bod y smyglwyr ar y cwch yn bwriadu ceisio glanio ar arfordir Cymru, cyn cludo’r cyffuriau ymlaen i Loegr.

Arestio pump, chwilio am un

Mae’n ymddangos fod cymaint o gocên ar y cwch nes bod y tri dyn – y capten sydd yn 70 oed a dau ddyn sydd yn 35 a 28 – wedi bod yn eistedd ar y bagiau o gyffuriau drwy gydol y daith.

Mae dau ddyn arall o Swydd Efrog, 45 a 47 oed, hefyd wedi cael eu harestio, tra bod heddlu’n parhau i chwilio am chweched dyn y maen nhw’n credu sy’n rhan o’r smyglo.

Ar ôl cipio’r cwch 200 milltir o Mizen Head, penrhyn mwya’ deheuol Iwerddon, fe aeth yr awdurdodau â’r cwch i harbwr Cork, cyn cludo’r cyffuriau i Ddulyn i gael eu profi.

Mae’n  ymddangos mai cwch i’w hurio yw’r Makayabella.

Yn ôl yr awdurdodau mae’r môr i’r de o Iwerddon yn un o’r llwybrau mwya’ poblogaidd ar gyfer smyglwyr cyffuriau sydd yn ceisio cludo’u cargo i orllewin Ewrop.