Jill Evans yn Senedd Ewrop
Fe fydd Aelod o Senedd Ewrop yn galw am roi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd Jill Evans yn defnyddio trafodaeth i gadarnhau penodi Comisiynwyr newydd er mwyn galw am gynnydd yn y gefnogaeth i ieithoedd llai, yn arbennig y Gymraeg.
Hynny er bod Llywydd y Comisiwn, Jean-Claude Juncker, wedi dileu swydd Comisiynydd gyda chyfrifoldeb penodol am amlieithrwydd.
Yn ôl Jill Evans, ASE Plaid Cymru, mae yna ffyrdd eraill o hyrwyddo ieithoedd llai, trwy gynlluniau Ewropeaidd.
Fe fydd hefyd yn galw ar i Lywodraeth Prydain ddefnyddio ei Llywyddiaeth o’r Undeb i bwyso am statws llawn i’r Gymraeg.
Statws llawnach
Fe fydd yn galw am gael statws llawnach i’r Gymraeg yn Senedd Ewrop, gan gynnwys yr hawl i siarad yn Gymraeg – hyd yma statws ‘cydswyddogol’ sydd gan yr iaith, sy’n darparu cyfieithu mewn rhai pwyllgorau.
“Does dim ffordd fwy effeithiol i’r Undeb Ewropeaidd gyfathrebu â phobol nag yn eu hiaith eu hunain,” meddai Jill Evans.
“Byddaf yn gofyn i Mr Juncker fabwysiadu strategaeth gadarnhaol ac effeithiol ar ieithoedd.”
Condemnio penderfyniad y Comisiwn
Yn y cyfamser, mae arbenigwr ar gynllunio iaith wedi condemnio penderfyniad y Comisiwn i ddileu’r swydd amlieithrwydd a rhoi’r cyfrifoldeb yn isel ar bortffolio’r adran economaidd.
Roedd hynny’n dangos bod y gwladwriaethau mawr “imperialaidd” wedi dod at ei gilydd i rhwystro’r Undeb Ewropeaidd rhag hyrwyddo amrywiaeth, yn ôl Gareth Ioan, Prif Weithredwr y Ganolfan Iaith yn Nyffryn Teifi.
Roedd y penderfyniad yn ffafrio gwladwriaethau sy’n aelodau o’r Undeb yn hytrach na’r cenhedloedd a’r rhanbarthau llai, meddai.
“Mae hefyd yn dangos bod yr Undeb Ewropeaidd yn symud fwyfwy at gynnal agwedd economaidd gul at amlieithrwydd, yn hytrach na chydnabod a dathlu treftadaeth ieithyddol a diwylliannol Ewrop yn ei holl amrywiaeth.”