Mae disgwyl y bydd aelodau seneddol yn cefnogi cais Prif Weinidog Prydain David Cameron am i luoedd arfog Prydain ymuno yn yr ymosodiadau ar fudiad milwrol IS yn Irac.
Fe fydd aelodau Tŷ’r Cyffredin yn dychwelyd i Lundain heddiw ar gyfer dadl frys ac mae’r prif bleidiau’n cefnogi’r cais.
Y bwriad fydd bod awyrennau milwrol Prydeinig yn ymuno yn y cyrchoedd awyr dan arweiniad yr Unol Daleithiau.
Irac nid Syria
Fydd David Cameron ddim yn gofyn am ymosodiadau ar IS yn Syria – adlewyrchiad o gymhlethdod y sefyllfa wleidyddol yno a’r ffaith fod aelodau seneddol yn y gorffennol wedi gwrthod ymyrryd yno.
Yn Irac hefyd, mae’r Cwrdiaid a llywodraeth y wlad wedi gofyn am gymorth tra byddai ymosod yn Syria’n cael ei weld yn rhoi cymorth i weinyddiaeth yr Arlywydd Assad, sydd wedi cael ei gondemnio’n llym gan wledydd y Gorllewin.
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, wedi rhybuddio y gallai’r ymladd barhau yn Irac am ddwy neu dair blynedd.
Yn ôl y Llywodraeth, mae’n hanfodol gorchfygu IS – y Wladwriaeth Islamaidd – sydd bellach yn rheoli rhan helaeth o’r Dwyrain Canol ac, yn ôl yr Arlywydd Obama, maen nhw’n fygythiad i’r Gorllewin hefyd.
Barn aelodau Cymru
Yn ôl cyn Ysgrifennydd Llafur Cymru, Peter Hain, ar Radio Wales heddiw, barbareiddiwch IS sy’n mynnu bod rhaid ymateb.
Fe ddywedodd llefarydd Plaid Cymru, Hywel Williams, eu bod o blaid cymorth ymarferol i’r ymdrech yn erbyn IS ond yn teimlo bod ymuno yn yr ymosodiadau’n ormod – rhag ofn lledu’r ymladd a rhag ofn mynd o gam i gam i frwydr fwy.