Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn yng Nghaerffili yn dweud eu bod nhw wedi cyhuddo llanc o lofruddiaeth.

Bu farw Michael Lee Emmett, 31, ar 2 Medi ar ôl cael ei drywanu yn y Coed Duon yng Nghaerffili.

Ddoe, fe gadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi arestio llanc 16 oed.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw bellach wedi ei gyhuddo o lofruddio.

Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd ar 29 Medi.

Roedd Michael Emmett yn dad i ddau o blant.