Prifysgol Aberystwyth
Fe fydd Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd i ddisgyblion chweched dosbarth yr wythnos nesaf, er mwyn eu hannog i ddilyn un o gyrsiau fwyaf newydd y brifysgol.
Cafodd y cwrs gradd Cymraeg Proffesiynol, cwrs tair blynedd sy’n dysgu sgiliau galwedigaethol gwerthfawr ar gyfer y gweithle, ei lansio yn 2011.
Amcan y gynhadledd fydd rhoi blas o’r cwrs gradd – sy’n cael ei alw’n “arloesol” gan y brifysgol – a chlywed gan staff a myfyrwyr yr adran, yn ogystal â siaradwyr gwadd a fydd yn trafod eu gyrfaoedd ym myd y Gymraeg.
Bydd sgyrsiau yn cael eu harwain gan Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Branwen Huws, Pennaeth Marchnata Y Lolfa, a Delyth Jewell, Pennaeth Ymchwil Plaid Cymru yn y Senedd yn Llundain, ac enillydd gwobr Ymchwilydd y Flwyddyn yn San Steffan eleni.
Agor drysau
Trefnwyd y Gynhadledd gan Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio fel darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol.
“Bydd y gynhadledd arbennig hon yn dangos bod y Gymraeg yn agor drysau, ac rydym ni yn Aberystwyth yn cynnig y sgiliau galwedigaethol a fydd yn allweddol bwysig ar gyfer datblygu gyrfa ar ôl graddio,” meddai.
Bydd y gynhadledd yn digwydd ar 4 Hydref ac mae’n rhad ac am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth a’u rhieni.