David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn wynebu galwadau gan aelodau blaenllaw o’r blaid Geidwadol i beidio â rhuthro i ymuno gyda’r ymgais i herio’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae ASau yn paratoi i gynnal pleidlais frys ynglŷn â’r gwrthdaro yn Irac yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.
Mewn araith i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd neithiwr, dywedodd David Cameron fod angen herio IS a bod “angen i’r byd cyfan uno yn ei erbyn”.
Ychwanegodd bod Prydain yn barod i gymryd rhan mewn cyrchoedd awyr tros Irac a’i fod yn hyderus y byddai’r holl bleidiau seneddol yn cefnogi ei safbwynt.
Ond mae Torïaid blaenllaw wedi codi amheuon gan ddweud bod angen ymladd yn erbyn IS yn Syria.
‘Llygad y Ffynnon’
“Dw i ddim yn un fyddai’n dweud na wnawn ni roi milwyr yn y wlad. Yr unig ffordd i gael gwared a’r bygythiad yw i’w hymladd nhw ar y tir, eu gwthio allan, eu diddymu neu eu dal,” meddai’r AS Ceidwadol, Bob Stewart.
“Ond mae’n rhaid mynd i lygad y ffynnon. A dim yn Irac mae hwnnw o reidrwydd.”
Wrth i rai ASau bwyso am weithredu, roedd eraill yn rhybuddio Cameron. Dywedodd John Baron fod angen i weinidogion esbonio eu strategaeth yn fwy clir:
“Mae’r rhan fwyaf yn derbyn na fydd cyrchoedd awyr yn trechu IS. Felly beth yw’r cynllun wrth gefn?
“Heb fyddin Irac ar y tir, fe all y cyrchoedd awyr fod yn aneffeithiol a hyd yn oed yn gwrthwneud y gwaith cychwynnol.”