Mae adroddiadau’n awgrymu bod y clerigwr radical Anjem Choudary ymhlith naw o bobol sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychol.
Cafodd y naw eu harestio yn Llundain yn dilyn cyrchoedd gan Heddlu Llundain, gan eu bod nhw’n cael eu hamau o fod yn aelodau o’r grŵp Al-Muhajiroun, sydd wedi cael ei wahardd.
Mae 18 o leoliadau’n cael eu harchwilio gan yr heddlu yn Llundain, yn ogystal ag un arall yn Stoke.
Mae’r dynion sydd wedi cael eu harestio rhwng 22 a 51 oed.
Ond dywedodd Heddlu Scotland Yard nad oes perygl i’r cyhoedd.