Cyngor Sir y Fflint
Mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod uno â Chyngor Sir y Fflint yn dilyn trafodaethau neithiwr.

Er bod y cynghorau wedi croesawu’r cyfle i gynnal trafodaethau, dywed Cyngor Wrecsam nad ydyn nhw o blaid uno ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Conwy wedi penderfynu ystyried y posibilrwydd o uno â Sir Ddinbych.

Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews yn awyddus i weld cynghorau’n uno fel rhan o argymhellion Comisiwn Williams.

Yn ôl Comisiwn Williams, mae angen lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i naill ai 10,11 neu 12.

Wrth wrthod y posibilrwydd o uno, dywedodd Cyngor Sir y Fflint fod angen ymchwilio i’r posibiliadau ymhellach cyn ymrwymo i benderfyniad ffurfiol.

Ond dywed Cyngor Wrecsam eu bod nhw’n ddigon mawr i aros yn annibynnol.

Gallai unrhyw gynghorau cyfun newydd gael eu sefydlu erbyn 2018.