Mae arolwg sy’n dangos faint o goed sydd yn nhrefi a dinasoedd Cymru, ble maen nhw a ble maen nhw’n diflannu yn cael ei ryddhau heddiw.
Mae’r arolwg – y cyntaf o’i fath drwy’r byd- wedi ei gomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac yn cael ei lansio mewn cyfarfod yn Wrecsam.
Yn 2009, 17% o dir trefol Cymru oedd wedi ei orchuddio gan goed – gyda’r ffigwr yn amrywio o 6% yn unig yn Y Rhyl i 30% yn Nhreharris.
Yn ddiweddarach, dangosodd yr astudiaeth fod gorchudd coed wedi dirywio mewn chwarter o drefi Cymru rhwng 2006 a 2009 – gyda mwy nag 11,000 o goed mawr wedi’u colli’n gyfan gwbl.
Ansawdd bywyd
Meddai Dafydd Fryer o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae coed yn hollbwysig i fywyd, gan gynnig gwasanaethau naturiol i wella ansawdd bywydau pobol mewn trefi a dinasoedd.
“Maen nhw’n cynnig gwasanaeth hollbwysig i gymunedau trwy gael gwared â llygredd o’r aer, trwy leihau perygl llifogydd a thrwy wrthbwyso allyriadau carbon deuocsid wrth eu sugno o’r atmosffer.
“Os gallwn reoli a chynllunio ble a pha rywogaethau o goed a blannwn yn ein trefi a’n dinasoedd, a gwarchod y coed sydd gennym yn barod, yn ôl yr astudiaeth gall y coed yma helpu i wneud ein cymunedau’n gynaliadwy.”