Mae deddf newydd yn dod i rym heddiw sy’n bwriadu ei gwneud yn haws i bobol seiclo a cherdded yng Nghymru.

Dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo cerdded a beicio.

Fe fydd yn rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer cerdded a beicio, a mynd ati bob blwyddyn i wella’r seilwaith sydd ganddyn nhw ar gyfer cerdded a beicio.

Cydweithio

I nodi’r achlysur, bydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, yn siarad mewn cynhadledd flynyddol ar Deithio Llesol sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol yn barod i greu rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion gerdded a beicio yn ddiogel i’r ysgol, gan wneud hynny drwy’r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Mae wedi gofyn hefyd i’r awdurdodau lleol ddarparu manylion am y gwaith sydd eto i’w wneud i wella diogelwch a mynediad ar y ffyrdd o amgylch ein hysgolion.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, fydd hefyd yn siarad yn y gynhadledd: “Os ydyn ni am i’n plant fod yn llawn egni yn yr ystafell ddosbarth, mae angen iddyn nhw fod yn llawn egni cyn iddyn nhw gyrraedd gatiau’r ysgol. Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol er mwyn cynnal ffordd iach o fyw.”