Mark Serwotka
Fe fydd y gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr yn wynebu tridiau o streicio gan weithwyr a gweision sifil.
Fe fydd yr anghydfod hefyd yn effeithio ar weithwyr y Cynulliad yng Nghymru ac mae posibilrwydd o ragor o weithredu yma hefyd yn y dyfodol.
Fe fydd undeb Unison Cymru yn cynnal pleidlais ymhlith ei aelodau tros dair wythnos ddechrau mis Hydref ac fe allai streiciau ddilyn.
‘Pen eu tennyn’
Yn y cyfamser, mae nifer o undebau blaenllaw yn rhybuddio Llywodraeth Prydain fod gweithwyr y sector cyhoeddus wedi cyrraedd pen eu tennyn, wrth i’r ddadl tros gyflogau boethi.
Cyhoeddodd undebau Unison a PCS fod cannoedd o filoedd o’u haelodau am gynnal cyfres o streiciau am nad ydyn nhw wedi cael codiad cyflog ers 2010.
Fe fydd gweithwyr iechyd yn cerdded allan o’u gwaith ar 13 Hydref, gweithwyr cyngor ar 14 Hydref a gweision sifil ar 15 Hydref. Mae gweithwyr y Cynulliad Cenedlaethol ymysg y rheiny.
Yn dilyn y streicio, mae disgwyl i undeb TUC gynnal protest yn Llundain ar 18 Hydref.
Cyflogau
Mae undeb y gweision sifil – y PCS – yn honni fod yr aelodau wedi gweld eu cyflogau yn disgyn o 20% ers 2010, o ystyried chwyddiant a chyfraniadau pensiwn.
“Mae’r streiciau yma yn dangos ein bod o ddifrif am ddod a’r gostyngiad y cyflogau, sydd wedi amharu ar safonau byw y gweithwyr ar y cyflogau isaf, i ben,” meddai ysgrifennydd ccyfredinol PCS, y Cymro, Mark Serwotka.