Rhun ap Iorwerth - anwybyddu'r cwymp
Dyw’r ffaith bod nifer y bobol sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru wedi syrthio i’w lefel isaf erioed ddim yn syndod yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Wrth siarad ar Radio Wales y bore yma, dywedodd Leanne Wood fod ymgyrch negyddol yn yr Alban wedi codi amheuon am annibyniaeth yng Nghrymu.
Dangosodd arolwg barn newydd gan ICM mai dim ond 3% o’r 1,000 o bobol gafodd eu holi sydd eisiau gweld Cymru yn wlad annibynnol – gostyngiad o 2% ar yr arolwg diwetha’ ym mis Mawrth.
Mwy o bwerau
Mae ymateb Rhun Ap Iorwerth, llefarydd y blaid ar economi, i’r ffigyrau wedi diystyru’r ffaith cwymp yn y gefnogaeth i annibyniaeth a chanolbwyntio ar y galw am gynnydd mewn pwerau.
“ Mae’n glir o’r arolwg fod cefnogaeth sylweddol i sicrhau bod mwy o benderfyniadau ynglŷn â Chymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai.
“Mae Plaid wedi dadlau am amser hir y dylai’r penderfyniadau sy’n effeithio pobol Cymru gael eu cymryd mor agos ag sy’n bosib atyn nhw, ac mae’n glir fod y pleidleiswyr yn cytuno â ni.”
Galwad ddiweddara’ Plaid Cymru yw am yr un grymoedd ag y bydd yr Alban yn eu cael.